Back

Login

Don’t have an account?Register
Powered By
Pitchero
News & EventsNewsCalendar
Adroddiad y gêm: Y Bala 0 – 33 Nant Conwy

Adroddiad y gêm: Y Bala 0 – 33 Nant Conwy

Harry Guttridge27 Oct 2024 - 11:22

#Egnialwydd

Gêm gwpan oedd hon a tasai hi’n gêm rhwng blaenwyr y ddau dîm neu’n ornest focsio, byddai’r Bala wedi ennill yn rhwydd, gan iddyn nhw dreulio tri chwarter y gêm yn ddwfn yn hanner Nant. Ond mae gan Nant wastad gêr arall, ac er mai dim ond pump ymosodiad gawsant, fe wnaethon nhw sgorio cais bob tro ac ennill y gêm. Roedd eu cefnwyr nhw’n beryg’ bywyd a gwir yr hen ystrydeb mae cefnwyr sy’n ennill gêm. Er i’r Bala bwyso a phwyso, methwyd â sgorio cais ac roedd disgyblaeth Nant yn wers i’r Bala, wrth iddynt i gyd daclo a thaclo a gwrthod ildio modfedd, ond gall Y Bala fod yn falch o’u hymroddiad ac yn sicir mae’r bwlch rhwng y ddau dîm wedi cau ers y tymor dwytha a Nant yn gwybod eu bod wedi bod mewn gêm galed.
Siawns fod Y Bala wedi dysgu llawer o’r gêm yma – a bod rhaid canolbwyntio drwy’r amser a pheidio troi cefn ar y chwarae. Unwaith eto, roedd gormod o gamgymeriadau yn yr eiliadau tyngedfennol a rhaid pasio’n well fel nad ydynt yn colli momentwm wrth orfod ymestyn i’r awyr am y bêl. Pasiwch i ddwylo.
Stampiwch bawb nad ydi o’n gwisgo crys Y Bala oedd y gorchymyn a roddwyd i’r blaenwyr cyn dechrau’r gêm ond doedd hyn ddim yn cynnwys y reffarî druan, Iestyn - ac yntau’n gradur digon eiddil ar y gorau (y reffarî, nid Iestyn!)
Braf oedd gweld criw mawr yn y clwb yn mwynhau peint ar ôl y gêm gyda’r aelodau’n helpu i greu’r ymdeimlad o fod yn perthyn i glwb. Mae’r incwm ddaw o’r gemau yma’n hanfodol bellach er mwyn sicrhau dyfodol y clwb sydd wedi gwneud cymaint i fechgyn a merched yr ardal o oed cynradd i’r ieuenctid a’r timau hŷn. Mae’n rhan mor bwysig o fywyd cymdeithasol y dre’ a’r clwb sydd gennym ar Faes y Gwyniad yn fwy na brics a morter – mae’n galon i fywyd Cymraeg yr ardal, yn union fel roedd ein capeli ers talwm. Mae’r clwb yn haeddu pob cefnogaeth.
Further reading