News & EventsLatest NewsCalendar
CPD Amateuriaid y Blaenau v CPD Glantraeth

CPD Amateuriaid y Blaenau v CPD Glantraeth

Sion Jarman30 Jul 2016 - 18:55
Share via
FacebookX
https://www.pitchero.com/clubs

Gem gwych ir Amateuriaid / Amazing game for the Amateurs

Canlyniad Heddiw:
Blaenau Amateurs 2 - 1 Glantraeth
Bryn Humphreys
Sion Roberts
Seren Yr Amaturiaid - Huw Parry
Glantraeth oedd ymwelwyr Yr Amaturiaid heddiw, tim sydd yn chwarae mewn un gynghrair yn uwch - ond nid oedd dim yn 'amateur' ogwbl ym mhyfformiad Amaturiaid Stiniog heddiw!!
O'r chwiben cyntaf, aeth Blaenau allan i rheoli'r gem, gyda Gareth Evans yn achosi golgeidwad Glantraeth i arbedu'n wych o 6 llath allan!
Welodd golgeidwad Blaenau,Gethin Jones, fawr o'r bel yn yr hanner cyntaf. Yr unig ergyd gafodd Glantraeth yn yr hanner cyntaf oedd pan tarodd eu canolwr cae ergyd drydanol o tu allan i'r cwrt cosbi, dim ond oddo weld ei ergyd yn taro'r traws! Roedd sawl un yn dangos allan i'r Amaturiaid, gyda Huw Parry yn rheoli'n gadarn yn y cefn drwy gydol y gem! Roedd Kieron Ellis unwaith eto yn greadigol iawn pan yn disgyn yn ddwfn i ennill meddiant! Rhaid hefyd canmol Oliver Dukes, a oedd yn chwarae ei gem cyntaf i'r Amaturiaid heddiw fel cefnwr chwith a chwaraeodd yn anhygoel! Aeth Blaenau ar y blaen ar yr awr, drwy ergyd drydanol Bryn Humphreys i gornel uchaf y rhwyd. Newidiodd Ceri Roberts a Doug Bach sawl chwaraewr yn yr ail hanner, un o'r heina oedd y talentog, Sion Aron Roberts,16 oed, a aeth drwyadd i rhoi Blaenau 2-0 i fyny! Ei ail gol mewn wythnos i'r Amaturiaid! Rheolodd Gareth Evans a Iolo Thomas y canol cae drwy gydol y gem, a Thomas ddaeth yn agos iawn i rhoi Blaenau 3 ar y blaen, ond iddo penio ei ergyd drosodd o 4 llath!!
Daeth gol Glantraeth yn eiliadau olaf y gem, fel canlyniad o cic rhwydd anuniongyrchiol.
Perfformiad anhygoel eto gan Yr Amaturiaid. Agwedd aeddfed iawn gan griw mor ifanc a ddi-brofiad. Hwylia gwych ar hyn o bryd gan y chwarelwyr, dal ati 'gia!!
Further reading