News & EventsLatest NewsCalendar
CPD Amateuriaid y Blaenau v CPD Llamystumdwy

CPD Amateuriaid y Blaenau v CPD Llamystumdwy

Sion Jarman28 Jul 2016 - 19:25
Share via
FacebookX
https://www.pitchero.com/clubs

Curo ein gem cyntaf . 1st win of season

Canlyniad gem gyfeillgar:
CPD Blaenau Amateurs 4 -2 Llanystumdwy.
Goliau - Sion (Egg) Jones, Joe Dukes, Daniel Pritchard, Sion Roberts.
Seren Yr Amaturiaid - Kieron Ellis.
Ar ol gem arbrofol dydd Sadwrn dwaetha' yn Harlech, heno gafodd Yr Amaturiaid eu gem gyfeillgar 1af fel y tim 'cyntaf' yn unig. Er hyn, roedd y tim yn cynnwys sawl chwaraewr ifanc a ddi-brofiad, a hefyd yn croesawu capten newydd y tim, Sion Wyn Jones a Cai Hughes hefyd yn ol o CPD Penrhyndeudraeth.
Cychwynnodd Y Amaturiaid yn bositif iawn, ac roedd hi'n amlwg eu bod nhw wedi bod yn ymarfer trefn ac siap a chadw meddiant yn eu sessiynau ymarfer. Roedd Gethin Jones unwaith eto yn edrych yn gyfforddus iawn yn gol, a rhwystrodd Llanystumdwy rhag sgorio ar sawl achlysur. Aeth Blaenau ar y blaen drwy gol 1af Sion (Egg) Jones i'r clwb, ar ol iddo penio chic gornel perffaith Kieron Ellis i fewm i dop y rhwyd. Roedd Yr Amaturiaid yn rheoli'r meddiant, gyda Sion Wyn Jones a Kieron Ellis yn edrych yn peryg iawn mewn meddiant. Aeth Blaenau dwy gol ar y blaen, unwaith eto Kieron Ellis yn chwarae bel canmoladwy drwyadd i Joe Dukes, i sgorio ei gol gyntaf i'r clwb hefyd, ar ol iddo arwyddo o Talysarn Celts. Llwyddodd Llanystumdwy i dynnu gol yn ol yn erbyn llif y chwarae just cyn hanner amser, ar ol i Blaenau rhoi meddiant i ffwrdd yn y cefn yn ddi-angen!
O fewn cwpwl o funudau i fewn i'r ail hanner, llwyddodd Llanystumdwy i dynnu'n gyfartal o chic gornel. Rheolodd Llanystumdwy y meddiant am sbelan ar ol iddynt sgorio, a buasai wedi mynd ar y blaen oni bai am donniau anhygoel Gethin Jones yn gol Yr Amaturiaid. Newidiodd y gem pan ennillodd Blaenau cic rhwydd o'r asgell chwith, a gafodd ei cymryd gan Kieron Ellis. Chwipiodd Ellis y bel i'r cwrt, ond methodd golgeidwad Llanystumdwy ddelio gyda'r ergyd, a phwy oedd yno ond Daniel Pritchard i rhoi y bel yn nghefn y rhwyd. Aeth Blaenau ymlaen i newid sawl chwaraewr, a dal allu rheoli y meddiant am weddill y gem. Un o'r newidiadau oedd amddiffynwr 16 oed, Osian Evans, a rhoddodd perfformiad aeddfed ac hyderus i fewn ar y maes. Daeth gol olaf Yr Amaturiaid drwy bel dros top gan seren y gem, Kieron Ellis, i draed ymosodwr ifanc a thalentog Yr Amaturiaid, Sion Roberts i orffan yn hyderus o amgylch y golgeidwad.
Perfformiad aeddfaed gan sawl mor ifanc, a llawn haeddianol o'u buddugoliaeth!! Ymlaen i'r nesaf 'gia!
Further reading