Back

Login

Don’t have an account?Register
Powered By
Pitchero
News & EventsLatest NewsCalendar
Croeso adra Tom!

Croeso adra Tom!

CPD Llanllyfni26 Aug 2014 - 19:56

Thomas Williams yn dychwelyd i Llan

Mae'r clwb yn hapus i gyhoeddi eu bod wedi arwyddo Thomas Williams o Llanrug United.

Arwyddodd Tom i Lanrug yn ystod yr haf diwethaf a chwaraeodd ran bwysig yn nhymor llwyddiannus Llanrug (enillwyr Tlws FAW) drwy wneud 42 o ymddangosiadau i'r tim o Eithin Duon.

Roedd Tom yn aelod o dim dan 16 Llan, cyn symud ymlaen i'r tim dan 18. Yn ystod y cyfnod yma fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tim cyntaf. Dros y ddwy flynedd, sefydlodd ei hun fel un o ffefrynnau'r cefnogwyr. Daeth ei gyfnod i ben gyda Llan ar ddiwedd 2012/2013 drwy ennill tlws Chwaraewr y Cefnogwyr a Chwaraewr y Chwaraewyr am y tymor hwnnw.

Bydd Tom ar gael i Meic Williams ar gyfer ymweliad y tim cyntaf a Llanystumdwy nos fory.

Hoffai'r clwb ddiolch i Dylan Edwin Jones (Ysgrifennydd) ac Aled Owen (Rheolwr) o glwb Llanrug United am eu cydweithrediad parod.

Edrychwn ymlaen at weld Tom yn y crys melyn yn fuan! #cmonllan

Further reading