Back

Login

Don’t have an account?Register
Powered By
Pitchero
News & EventsLatest NewsCalendar
Cyflwyno siec i elusen Gafael Llaw

Cyflwyno siec i elusen Gafael Llaw

CPD Llanllyfni22 Aug 2014 - 20:51

Llwyddiant Twrnament #SaithEms eleni yn cael ei rannu ag achosion da yr ardal

Cyn ein gêm yn erbyn Talysarn Celts, cyflwynodd y clwb siec o £956 i Trystan Gwilym o elusen Gafael Llaw.

Cyflwynwyd y siec ar ran Twrnament #SaithEms a gynhaliwyd dros yr haf er cof am ein cyn chwaraewr, Emyr Williams. Yn ddiweddar, fe wnaeth aelodau o'r elusen gymryd rhan mewn taith feics 623 o filltiroedd gan ymweld â 15 o ysbytai plant ledled Cymru (rhoi taith feics y tîm cyntaf mewn perspectif!) Os hoffech ddarllen mwy am yr elusen ewch i'w gwefan http://gafael-llaw.co.uk/cy/

Hoffai'r clwb unwaith eto ddiolch i deulu a ffrindiau Emyr yn ogystal â phob clwb a wnaeth y diwrnod yn un llwyddiannus a hwyliog. Edrychwn ymlaen at gasglu mwy o arian er cof am Ems yn nhwrnament 2015.

Further reading