Mae'r clwb yn hapus i gyhoeddi eu bod wedi arwyddo Aaron Griffiths o Nantlle Vale.
Cofrestrwyd Aaron neithiwr a dychmygwn y bydd yn mynd yn syth i mewn i garfan Meic Williams ddydd Sadwrn ar gyfer y trip i Harlech.
Chwaraewr ifanc a dawnus ac yn gyn aelod o garfan Llanllyfni. Gyda'i gartref ond tafliad carreg i ffwrdd o'r cae, mae'n sicr dweud ei fod yn gwybod beth mae'n golygu i roi'r crys melyn ymlaen.
Hoffai'r clwb ddiolch i Nantlle Vale am eu cydweithrediad.
Croeso adra Mans!